prynhawn da bobl. dwi actually yn yr ysgol ar hyn o bryd, yn trio i wneud hyn cyn i'r wefan cael ei wahardd.
roedd amser cinio yn eitha dda, oherwydd dechreuon ni gem o smother yn erbyn bois eraill y tim, a wnaeth yr holl peth lan gorffen lan efo Gregg, y prop, yn cael ei ddympio ar ei ben-ol gan Niall, yr asgellwr.
dwi mewn wers almaeneg ar hyn o bryd, i fod yn ddechrau ar fy gyflwyniad llafar almaeneg AS, ond does gen i ddim yr awydd i weithio. does gen i byth yr awydd i weithio. gormod o waith cwrs a gem yn erbyn y sworn enemies, barry boys, ar ol ysgol.
ar hyn o bryd, dydw i ddim yn gallu ateb nol i sylw rhys, felly wnai ddweud fod enw'r band yw The Brokers. roedden ni'n fod i chwarae yng Nghlwb Ifor Bach, ond mae Owen am fynd i weld Sum-41 ar yr un dyddiad, felly mae hynny 'di cwmpo trwodd. os mae gan unrhywun diddordeb mewn gweld pa fath o ganeuon sy' gennym, ewch ar http://www.myspace.com/thebrokersmusic. ar hyn o bryd, mae'r holl ganeuon, ond am un (dwi'n meddwl), yn acwstig. dydyn ni heb 'di cael y cyfle i recordio'r caneuon.
amser i ddechrau gweithio nawr, felly mae'n rhaid i mi adael.