Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM

Fy enw i yw Siôn

Archif: Tachwedd 2007

06/11/2007 GMT 0

nol yn yr ysgol

stalefish1 @ 22:09

heddiw oedd y diwrnod cynta' nol. dim yn rhy ffol, ond eto, dim yn fy hoff sefyllfa.

sai'n gwybod pam, ond dw i'n teimlo yn eitha od ar hyn o bryd. sai'n siwr beth i wneud efo fy hun, a dw i wastad eisiau siarad efo rhywun, ond sai'n gwybod am beth.

edrych ymlaen at gem y gleision ar ddydd sul yn erbyn briste. bring it on.

03/11/2007 GMT 0

wythnos eitha shite

stalefish1 @ 23:02

i fod yn onest, dyma'r wythnos weithaf mewn oriau. dyw'r gwyliau yma heb 'di bod yn llwyddiant o gwbl.

dw i 'di colli pob ymarfer rygbi. dw i ddim ond mynd allan efo ffrindiau am 2 ddwirnod. a dw i'n teimlo'n eitha mixed up am ruth. dw i'n meddwl efallai mae'n amser i mi anghofio amdani. dyw hi dal heb 'di dweud unrhywbeth, felly mae'n amser i "throw in the towel".

heno yw'r noson cyntaf mewn oesoedd dw i 'di siarad efo ychydig pobl dros yr wythnos cyfan. dw i jyst eisiau cael ymarfer dda yfori ac yna mynd nol i'r ysgol.

hefyd, dw i rili eisiau mynd i ffrainc, yn enwedig, i baris. allez.

Archif | Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM