Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM

Fy enw i yw Siôn

23/09/2007 GMT 0

Hola

stalefish1 @ 00:14

Dwi'n mynd i ddechrau bant gan ymddiheirio am fy Nghymraeg cyn i mi dechrau'n iawn: mae'n mynd i fod yn eitha wael ar rhai adegau.

Wel, dyma fi efo fy mlog newydd. Wnes i gael un o'r blaen, ar Blogger, ond mi wnes i anghofio'r manylion personol felly mae yna blog a oedd yn berchen i mi, yn hongian o gwmpas cyberspace.

Fodd bynnag, dyma dechreuad newydd i mi o ran blogio. Wnai trio fy ngorau i gadw lan efo updates, ond sai'n addo dim.

Mae'r band 'di newid. Rydym wedi gadael Pippa, ac rydym nawr efo Owen fel ein frontman. Ac hefyd, mae yna sôn efallai bydden ni'n chwarae yng Nghlwb Ifor Bach eto, ac mi fydd pob un ohonom lan am hynny.

Y gig nesa' yw parti Kathleen, yng Nghlwb Rygbi Llanilltud Fawr, a dwi'n edrych ymlaen at hynny. Dwi'n benderfynol o wneud Standing In The Way Of Control, efo Owen yn cael Beth Ditto-moment ar y stage. Ond dydyn ni heb penderfynu am ba ganeuon eraill i wneud.

O ran career fy hun, wnes i recordio fersiwn o Fuck Forever gan y Babyshambles, a dwi'n eitha hapus efo hi, ond i mi colli allan rhan o'r cytgan cyntaf. A dwi dal eisiau rhywun i ganu ar rhai o'r ganeuon. Ongoing struggle.

Wel, well i mi gysgu nawr, oherwydd mae gen i ymarfer rygbi efo Sili ("Sully") yfori.

Nodyn fach gyflym am yr Australians. Roedden nhw'n grêt. Mi wnes i fwynhau siarad efo nhw, ac doedd dim un sefylla a oedd yn socially awkward: result.

Iawn, hwyl fawr am nawr. Dwi'n teimlo'n eitha Gogi, am ryw rheswm.

Nos dâ,

Siôn

Sylwadau

Dim sylwadau hyd yma. »

Ymateb:


<a href> <em> <blockquote> <strong> <cite> <code> <ul> <li> <dl> <dt> <dd>

Archif | Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM