Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM

Fy enw i yw Siôn

25/09/2007 GMT 0

hen atgofion

stalefish1 @ 19:08

wrth eistedd yma, yn bwyta hufen ia, dwi'n gallu cofio pa mor gwahanol roedd popeth tua 2 flynedd yn ôl. roedd jack yn mynd allan gyda pippa, ac roeddwn i yng nghanol 2 grwp o ffrindiau. roedd yna amseroedd da, ac roeddwn i'n eitha agos i bobl nad ydw i'n agos i nawr. a dyna beth sy'n gwneud pethau'n mor od. y ffaith fod pawb 'di newid cymaint ers yr amser hynny. a nawr dwi'n cyrraedd yr un lle ag arfer, pan dwi methu dweud unrhywbeth arall: dydw i ddim yn gallu. dim syniad pam, ond mae'r geiriau yn fy ngadael.

dwi'n colli'r amseroedd yna weithiau. ond dyna ni. job done, ac mae pawb 'di symud ymlaen.

mae 'Because Of The Times' wastad yn profi ei hunan i fod yn un o fy hoff albyms. mae'r caneuon yn totally under-rated.

i fod yn onest, dydw i ddim wir yn teimlo lan i wneud y drafft hanes, neu mynd i'r ysgol in general. dwi eisiau Gwener i ddod yn sharpish. mae'r gem yn erbyn Leinster ar nos Wener. dwi eisiau mynd rhedeg trwy strydoedd Caerdydd yn y nos eto, gan cicio'r pel rygbi at bysiau a cael rory'n rhedeg ymlaen o geir i sgorio ceisiau. a wedyn gweld dale ac huw yn gwilio o'r ochr arall o'r heol. roedd y noson yna'n gret.

wnes i fynd nol ar EIH, a dyna yw'r rheswm dros y rhan gyntaf o'm mhlog. ond, mae gen i newyddion annaearol. dwi'n mynd i weld Arcade Fire, y band mwyaf special yn fy mywyd, yn chwarae yng Nghaerdydd, fy hoff dinas yn y byd, ar y 30fed o Hydref. angrhedadwy, dwi'n gwybod. dwi'n definitely mynd i fod ar flaen y dorf, reit lan ar bwys y railings. mae'u caneuon nhw'n olygu cymaint i mi, mae'n anodd dweud. fantastig. methu aros.

chi'n gwybod beth, mae'n hen amser i mi dechrau gorffen fy drafft hanesyddol hollbwysig. crap. mae gen i ABCh yfori. mae'n crap. gret.

o, mae'r band yn chwarae yng Nghlwb Ifor Bach eto, ar y pumed ar hugain o Hydref, 2007.

Sylwadau

Un Sylw »

  1. S'mai.

    Licio'r blog. Ti di dewis patrymlun (template) cool. Be di enw eich band?

    Rhys | 2007-10-05 - 11:58:41 GMT 0 #

Ymateb:


<a href> <em> <blockquote> <strong> <cite> <code> <ul> <li> <dl> <dt> <dd>

Archif | Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM