Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM

Fy enw i yw Siôn

22/10/2007 GMT 0

taith i Lundain

stalefish1 @ 20:54

ie wir, taith ar fws i brif-ddinas Prydain. ac i fod yn hollol onest, y taith ar y bws oedd y rhan gorau. cyfle i siarad efo pobl a cyfle i ymlacio. a roedd y taith yn ôl yn well. wrth gwylio Ali (ffilm araf, ond eitha da), roeddwn i'n siarad efo Ruth, am y tro cyntaf mewn oesoedd, felly roeddwn i'n teimlo'n eitha hapus yn dod yn ôl.

i fod yn onest, roedd yr amgueddfa bach yn ddiflas h.y. dim ond rhyw awr a chwarter oedd gennym i fynd o gwmpas, ac er i ychydig o bethau da fod yna, doedd dim byd arbennig.

wedyn aethom am walk i'r pont ar bwys y House Of Lords/House Of Commons, ac mi wnes i chwarae rôl y ffotograffydd. yna, cawsom llun efo rory'n rhegu. classic.

felly, all in all, diwrnod eitha da. efallai bach o mitch, ond dyna ni. diwrnod allan yn Llundain. ond dwi rili ddim eisiau mynd nol yfori. er iddi fod dydd llun yn unig, mae'n dal i teimlo fel y penwythnos.

Sylwadau

Dim sylwadau hyd yma. »

Ymateb:


<a href> <em> <blockquote> <strong> <cite> <code> <ul> <li> <dl> <dt> <dd>

Archif | Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM