Fy enw i yw Siôn http://buenos-noches-bobl-bach.nireblog.com Sat, 30 Aug 2008 16:35:50 +0000 Fy enw i yw Siôn http://nireblog.com/imagenes/logo.png http://buenos-noches-bobl-bach.nireblog.com http://nireblog.com nol yn yr ysgol http://buenos-noches-bobl-bach.nireblog.com/post/2007/11/06/nol-yn-yr-ysgol http://buenos-noches-bobl-bach.nireblog.com/post/2007/11/06/nol-yn-yr-ysgol heddiw oedd y diwrnod cynta' nol. dim yn rhy ffol, ond eto, dim yn fy hoff sefyllfa.

sai'n gwybod pam, ond dw i'n teimlo yn eitha od ar hyn o bryd. sai'n siwr beth i wneud efo fy hun, a dw i wastad eisiau siarad efo rhywun, ond sai'n gwybod am beth.

edrych ymlaen at gem y gleision ar ddydd sul yn erbyn briste. bring it on.

Comments

]]>
Tue, 06 Nov 2007 22:09:38 +0000
wythnos eitha shite http://buenos-noches-bobl-bach.nireblog.com/post/2007/11/03/wythnos-eitha-shite http://buenos-noches-bobl-bach.nireblog.com/post/2007/11/03/wythnos-eitha-shite i fod yn onest, dyma'r wythnos weithaf mewn oriau. dyw'r gwyliau yma heb 'di bod yn llwyddiant o gwbl.

dw i 'di colli pob ymarfer rygbi. dw i ddim ond mynd allan efo ffrindiau am 2 ddwirnod. a dw i'n teimlo'n eitha mixed up am ruth. dw i'n meddwl efallai mae'n amser i mi anghofio amdani. dyw hi dal heb 'di dweud unrhywbeth, felly mae'n amser i "throw in the towel".

heno yw'r noson cyntaf mewn oesoedd dw i 'di siarad efo ychydig pobl dros yr wythnos cyfan. dw i jyst eisiau cael ymarfer dda yfori ac yna mynd nol i'r ysgol.

hefyd, dw i rili eisiau mynd i ffrainc, yn enwedig, i baris. allez.

Comments

]]>
Sat, 03 Nov 2007 23:02:39 +0000
dim awydd whatsoever http://buenos-noches-bobl-bach.nireblog.com/post/2007/10/30/dim-awydd-whatsoever http://buenos-noches-bobl-bach.nireblog.com/post/2007/10/30/dim-awydd-whatsoever sai'n deall merched. mi wnes i ofyn ruth os oedd hi eisiau cwrdd lan rhywbryd yn yr wythnos yma, ac yr unig ateb dw i 'di cael yw hi'n ddweud nad yw hi'n siwr beth mae'n wneud am yr wythnos (2 ddiwrnod yn ôl), ond wedyn mae hi 'di fod ar-lein 2 waith ers hynny, ac mae heb 'di dweud unrhywbeth arall. efallai roedd fy nisgwyliadau'n rhy ddwl.

sai'n gwybod.

rili ddim yn gwybod beth i wneud.

Comments

]]>
Tue, 30 Oct 2007 18:27:43 +0000
taith i Lundain http://buenos-noches-bobl-bach.nireblog.com/post/2007/10/22/taith-i-lundain http://buenos-noches-bobl-bach.nireblog.com/post/2007/10/22/taith-i-lundain ie wir, taith ar fws i brif-ddinas Prydain. ac i fod yn hollol onest, y taith ar y bws oedd y rhan gorau. cyfle i siarad efo pobl a cyfle i ymlacio. a roedd y taith yn ôl yn well. wrth gwylio Ali (ffilm araf, ond eitha da), roeddwn i'n siarad efo Ruth, am y tro cyntaf mewn oesoedd, felly roeddwn i'n teimlo'n eitha hapus yn dod yn ôl.

i fod yn onest, roedd yr amgueddfa bach yn ddiflas h.y. dim ond rhyw awr a chwarter oedd gennym i fynd o gwmpas, ac er i ychydig o bethau da fod yna, doedd dim byd arbennig.

wedyn aethom am walk i'r pont ar bwys y House Of Lords/House Of Commons, ac mi wnes i chwarae rôl y ffotograffydd. yna, cawsom llun efo rory'n rhegu. classic.

felly, all in all, diwrnod eitha da. efallai bach o mitch, ond dyna ni. diwrnod allan yn Llundain. ond dwi rili ddim eisiau mynd nol yfori. er iddi fod dydd llun yn unig, mae'n dal i teimlo fel y penwythnos.

Comments

]]>
Mon, 22 Oct 2007 20:54:58 +0000
s'gen i ddim enw am yr un yma http://buenos-noches-bobl-bach.nireblog.com/post/2007/10/16/sgen-i-ddim-enw-am-yr-un-yma http://buenos-noches-bobl-bach.nireblog.com/post/2007/10/16/sgen-i-ddim-enw-am-yr-un-yma dyna enw da.

mae bywyd 'di mynd bach yn ddiflas y dyddiau yma. dwi wastad 'di blino, wnaeth hi bwrw glaw like there's no tomorrow yn gynharach, mae bron pob gwers yn gorffen lan efo gwaith cwrs. a nawr dwi methu mynd i weld arcade fire neu calvin harris.

mae gen i deimlad od am y band. dwi'n dechrau teimlo'n ansicr o beth i wneud, h.y. i naill ai aros efo'r band, neu i chwilio am fand newydd. y rheswm dwi'n meddwl am edrych am fand newydd yw oherwydd dydyn ni ddim yn gwneud cymaint rhagor.

Comments

]]>
Tue, 16 Oct 2007 21:39:35 +0000
un o'r ysgol http://buenos-noches-bobl-bach.nireblog.com/post/2007/10/12/un-or-ysgol http://buenos-noches-bobl-bach.nireblog.com/post/2007/10/12/un-or-ysgol prynhawn da bobl. dwi actually yn yr ysgol ar hyn o bryd, yn trio i wneud hyn cyn i'r wefan cael ei wahardd.

roedd amser cinio yn eitha dda, oherwydd dechreuon ni gem o smother yn erbyn bois eraill y tim, a wnaeth yr holl peth lan gorffen lan efo Gregg, y prop, yn cael ei ddympio ar ei ben-ol gan Niall, yr asgellwr.

dwi mewn wers almaeneg ar hyn o bryd, i fod yn ddechrau ar fy gyflwyniad llafar almaeneg AS, ond does gen i ddim yr awydd i weithio. does gen i byth yr awydd i weithio. gormod o waith cwrs a gem yn erbyn y sworn enemies, barry boys, ar ol ysgol.

ar hyn o bryd, dydw i ddim yn gallu ateb nol i sylw rhys, felly wnai ddweud fod enw'r band yw The Brokers. roedden ni'n fod i chwarae yng Nghlwb Ifor Bach, ond mae Owen am fynd i weld Sum-41 ar yr un dyddiad, felly mae hynny 'di cwmpo trwodd. os mae gan unrhywun diddordeb mewn gweld pa fath o ganeuon sy' gennym, ewch ar http://www.myspace.com/thebrokersmusic. ar hyn o bryd, mae'r holl ganeuon, ond am un (dwi'n meddwl), yn acwstig. dydyn ni heb 'di cael y cyfle i recordio'r caneuon.

amser i ddechrau gweithio nawr, felly mae'n rhaid i mi adael.

Comments

]]>
Fri, 12 Oct 2007 13:48:29 +0000
hen atgofion http://buenos-noches-bobl-bach.nireblog.com/post/2007/09/25/hen-atgofion http://buenos-noches-bobl-bach.nireblog.com/post/2007/09/25/hen-atgofion wrth eistedd yma, yn bwyta hufen ia, dwi'n gallu cofio pa mor gwahanol roedd popeth tua 2 flynedd yn ôl. roedd jack yn mynd allan gyda pippa, ac roeddwn i yng nghanol 2 grwp o ffrindiau. roedd yna amseroedd da, ac roeddwn i'n eitha agos i bobl nad ydw i'n agos i nawr. a dyna beth sy'n gwneud pethau'n mor od. y ffaith fod pawb 'di newid cymaint ers yr amser hynny. a nawr dwi'n cyrraedd yr un lle ag arfer, pan dwi methu dweud unrhywbeth arall: dydw i ddim yn gallu. dim syniad pam, ond mae'r geiriau yn fy ngadael.

dwi'n colli'r amseroedd yna weithiau. ond dyna ni. job done, ac mae pawb 'di symud ymlaen.

mae 'Because Of The Times' wastad yn profi ei hunan i fod yn un o fy hoff albyms. mae'r caneuon yn totally under-rated.

i fod yn onest, dydw i ddim wir yn teimlo lan i wneud y drafft hanes, neu mynd i'r ysgol in general. dwi eisiau Gwener i ddod yn sharpish. mae'r gem yn erbyn Leinster ar nos Wener. dwi eisiau mynd rhedeg trwy strydoedd Caerdydd yn y nos eto, gan cicio'r pel rygbi at bysiau a cael rory'n rhedeg ymlaen o geir i sgorio ceisiau. a wedyn gweld dale ac huw yn gwilio o'r ochr arall o'r heol. roedd y noson yna'n gret.

wnes i fynd nol ar EIH, a dyna yw'r rheswm dros y rhan gyntaf o'm mhlog. ond, mae gen i newyddion annaearol. dwi'n mynd i weld Arcade Fire, y band mwyaf special yn fy mywyd, yn chwarae yng Nghaerdydd, fy hoff dinas yn y byd, ar y 30fed o Hydref. angrhedadwy, dwi'n gwybod. dwi'n definitely mynd i fod ar flaen y dorf, reit lan ar bwys y railings. mae'u caneuon nhw'n olygu cymaint i mi, mae'n anodd dweud. fantastig. methu aros.

chi'n gwybod beth, mae'n hen amser i mi dechrau gorffen fy drafft hanesyddol hollbwysig. crap. mae gen i ABCh yfori. mae'n crap. gret.

o, mae'r band yn chwarae yng Nghlwb Ifor Bach eto, ar y pumed ar hugain o Hydref, 2007.

Comments

]]>
Tue, 25 Sep 2007 19:08:22 +0000
Hola http://buenos-noches-bobl-bach.nireblog.com/post/2007/09/23/hola http://buenos-noches-bobl-bach.nireblog.com/post/2007/09/23/hola Dwi'n mynd i ddechrau bant gan ymddiheirio am fy Nghymraeg cyn i mi dechrau'n iawn: mae'n mynd i fod yn eitha wael ar rhai adegau.

Wel, dyma fi efo fy mlog newydd. Wnes i gael un o'r blaen, ar Blogger, ond mi wnes i anghofio'r manylion personol felly mae yna blog a oedd yn berchen i mi, yn hongian o gwmpas cyberspace.

Fodd bynnag, dyma dechreuad newydd i mi o ran blogio. Wnai trio fy ngorau i gadw lan efo updates, ond sai'n addo dim.

Mae'r band 'di newid. Rydym wedi gadael Pippa, ac rydym nawr efo Owen fel ein frontman. Ac hefyd, mae yna sôn efallai bydden ni'n chwarae yng Nghlwb Ifor Bach eto, ac mi fydd pob un ohonom lan am hynny.

Y gig nesa' yw parti Kathleen, yng Nghlwb Rygbi Llanilltud Fawr, a dwi'n edrych ymlaen at hynny. Dwi'n benderfynol o wneud Standing In The Way Of Control, efo Owen yn cael Beth Ditto-moment ar y stage. Ond dydyn ni heb penderfynu am ba ganeuon eraill i wneud.

O ran career fy hun, wnes i recordio fersiwn o Fuck Forever gan y Babyshambles, a dwi'n eitha hapus efo hi, ond i mi colli allan rhan o'r cytgan cyntaf. A dwi dal eisiau rhywun i ganu ar rhai o'r ganeuon. Ongoing struggle.

Wel, well i mi gysgu nawr, oherwydd mae gen i ymarfer rygbi efo Sili ("Sully") yfori.

Nodyn fach gyflym am yr Australians. Roedden nhw'n grêt. Mi wnes i fwynhau siarad efo nhw, ac doedd dim un sefylla a oedd yn socially awkward: result.

Iawn, hwyl fawr am nawr. Dwi'n teimlo'n eitha Gogi, am ryw rheswm.

Nos dâ,

Siôn

Comments

]]>
Sun, 23 Sep 2007 00:14:26 +0000